Cymorth Mapiau Cymunedol

Tudalen gartref

Gofynnwn i chi ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni, sut a pham rydym yn casglu, storio, defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol, eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu â ni ac awdurdodau goruchwylio os oes gennych gŵyn.

Pwy ydyn ni

Mae Mapping for Change CIC (“Ni”) yn casglu, yn defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi. Pan fyddwn yn gwneud hynny rydym yn cael ein rheoleiddio o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sy’n berthnasol ar draws yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys yn y Deyrnas Unedig) ac rydym yn gyfrifol fel ‘rheolwr’ y wybodaeth bersonol honno at ddibenion y cyfreithiau hynny.

Y wybodaeth bersonol a gasglwn ac a ddefnyddiwn

I’ch cofrestru fel defnyddiwr Mapiau Cymunedol, rydym yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol pan fyddwch yn ei rhoi i ni:

  • Eich enw
  • Eich cod post
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Eich rhif(au) ffôn

Rydym am roi’r profiad defnyddiwr gorau i chi wrth ddefnyddio ein gwefan felly byddwn yn casglu gwybodaeth dechnegol benodol, gan gynnwys, lle bo ar gael, eich cyfeiriad IP; system weithredu; a math o borwr, at ddibenion gweinyddu a monitro systemau. Data ystadegol yw hwn am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn, ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy yw’r rhai sy’n ymweld â’n gwefannau.

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn defnyddio eich data personol:

  • I wirio eich hunaniaeth a dilysu eich cofrestriad Mapiau Cymunedol.
  • Er mwyn eich galluogi i fewngofnodi a chael mynediad neu gyfrannu at Fapiau Cymunedol.
  • I sicrhau eich bod yn derbyn adborth ac ymatebion i faterion yr ydych wedi eu codi.
  • I sicrhau y cyflwynir cynnwys o’n safle yn y modd mwyaf effeithiol i chi a’ch cyfrifiadur.
  • I ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau yr ydych yn gofyn amdanynt gennym ni neu y teimlwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, lle rydych wedi cydsynio i ni gysylltu â chi at ddibenion o’r fath.
  • I’ch caniatáu i gymryd rhan mewn nodweddion rhyngweithiol o’n gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.
  • I’ch hysbysu o newidiadau i’n gwasanaeth.

Gyda phwy ydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ag awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu awdurdodau eraill os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith berthnasol. Rydym yn cyfyngu mynediad at eich gwybodaeth bersonol i wasanaethau trydydd parti ar gyfer gweithredu ein gwasanaeth. Bydd y rhai sy’n prosesu eich gwybodaeth yn gwneud hynny mewn modd awdurdodedig yn unig ac maent yn destun dyletswydd cyfrinachedd.

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y byddwch yn cynnal eich cyfrif Mapiau Cymunedol.

Rhesymau y gallwn gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn cofrestru fel defnyddiwr Mapiau Cymunedol, rydym yn gofyn am eich caniatâd i brosesu eich data fel yr amlinellir uchod. Rydym yn dibynnu ar y caniatâd hwn fel y sail gyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol.

Eich hawliau chi

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol mae gennych nifer o hawliau pwysig yn rhad ac am ddim. I grynhoi, mae’r rhain yn cynnwys hawliau i:

  • gyrchu eich gwybodaeth bersonol a gwybodaeth atodol benodol y mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn eisoes wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag ef
  • gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich gwybodaeth sydd gennym
  • gofyn am ddileu gwybodaeth bersonol amdanoch mewn rhai sefyllfaoedd
  • derbyn y wybodaeth bersonol amdanoch yr ydych wedi’i darparu i ni, mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac sy’n ddarllenadwy gan beiriant ac mae gennych yr hawl i drosglwyddo’r data hynny i drydydd parti mewn rhai sefyllfaoedd
  • gwrthwynebu ar unrhyw adeg i brosesu gwybodaeth bersonol amdanoch ar gyfer marchnata uniongyrchol
  • gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol sy’n ymwneud â chi neu sy’n effeithio’n sylweddol arnoch yn yr un modd
  • gwrthwynebu mewn rhai sefyllfaoedd eraill i ni barhau i brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • fel arall cyfyngu ar ein prosesu o’ch gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau

I gael rhagor o wybodaeth am bob un o’r hawliau hynny, gan gynnwys yr amgylchiadau y maent yn berthnasol iddynt, gweler y Canllawiau gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (ICO) ar hawliau unigolion o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau rheiny:

  • e-bostiwch info@mappingforchange.org.uk, neu ysgrifenwch atom
  • rhowch ddigon o wybodaeth i ni eich adnabod
  • gadewch inni gael prawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad (copi o’ch trwydded yrru neu basbort a bil cyfleustodau neu gerdyn credyd diweddar), a
  • rhowch wybod i ni pa wybodaeth y mae eich cais yn ymwneud â hi.

Gallwch ganfod a ydym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch drwy wneud ‘cais gwrthrych am wybodaeth’ o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Gall unrhyw gais am fynediad fod yn amodol i ffi o £10 i dalu ein costau i’ch darparu â manylion yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.

Cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel

Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli, defnyddio neu gyrchu yn ddamweiniol heb awdurdod. Mae gennym hefyd weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am amheuaeth o dorri diogelwch data lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Ble ydyn ni’n storio eich data personol

Gellir trosglwyddo’r data a gasglwn gennych chi i, a’i storio mewn, lleoliad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Gellir hefyd ei brosesu gan staff yn gweithredu tu allan i’r AEE sy’n gweithio i ni neu i un o’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti. Trwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddiad, storio neu brosesu hwn. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol angenrheidiol i sicrhau fod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Ble rydych wedi dewis cyfrinair sy’n eich galluogi i gael mynediad at rannau penodol o’n safle, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Peidiwch â rhannu eich cyfrinair ag unrhyw un a pheidiwch â defnyddio cyfrinair rydych eisoes wedi’i ddefnyddio i gael mynediad at wefannau neu wasanaethau eraill.

Cwcis

Mae ein gwefannau yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefannau a hefyd yn ein caniatáu i wella’n gwefannau. Am wybodaeth fanwl ar y cwcis a ddefnyddiwn Ni a pham ein bod Ni yn eu defnyddio, darllenwch ein polisi cwcis.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn cyflawni adolygiadau rheolaidd o’n hysbysiad preifatrwydd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 26 Mawrth 2019

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech ofyn am wybodaeth ynghylch ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon e-bost atom neu ysgrifennu at: Mapping for Change CIC. Mildmay Community Centre. Woodville Road. London. N16 8NA

Cyfnodau dargadw Mapping for Change CIC

Ffynhonnell Amser Gweithredu sy’n ofynnol gennych chi Ein camau gweithredu Rhesymeg
Gwybodaeth a gesglir trwy Google Analytics 36 mis dim - awtomatig dim i alluogi dadansoddiad o berfformiad gwefan
Gwybodaeth a gyfranwyd at Fapiau Cymunedol amhenodol gall defnyddwyr ddileu eu cyfraniad(au) eu hunain cais wedi’i weithredu o fewn 14 diwrnod i alluogi mapiau i aros yn fyw ac yn ddefnyddiol
Cyfryngau a gyfranwyd at Fapiau Cymunedol amhenodol gofyn am ddileu cyfryngau cais wedi’i weithredu o fewn 14 diwrnod i alluogi cyfraniadau map i gael eu cefnogi gyda deunydd ychwanegol i aros yn fyw ac yn ddefnyddiol
Gwybodaeth a gasglwyd wrth gofrestru i ddefnyddio Mapiau Cymunedol amhenodol gofyn am ddileu cyfrif cais wedi’i weithredu o fewn 14 diwrnod i alluogi defnyddwyr i barhau i ddefnyddio’r mapiau
Gwybodaeth a gasglwyd wrth gofrestru i dderbyn e-newyddion amhenodol gofyn am ddileu oddi ar y gronfa ddata cais wedi’i weithredu o fewn 14 diwrnod i alluogi cyfathrebiadau i gael eu hanfon yn rheolaidd